Ymateb y Llywodraeth: Cod Ymarfer Rhan 2: Swyddogaethau Cyffredinol
Mae'r Llywodraeth yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am yr amser sydd wedi ei neilltuo i graffu ar y Cod Ymarfer drafft, a’r sylw a roddwyd i fanylion wrth wneud hynny.
Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan adran 145(2) caiff Cod osod gofynion neu caiff gynnwys canllawiau (neu'r ddau). Mae'r Cod hwn yn cynnwys y ddau ac mae'r pwyntiau defnyddiol a godwyd gan y Pwyllgor yn ymwneud yn unig â darpariaethau'r Cod nad ydynt yn gosod gofynion. Er hynny, mae'r Llywodraeth yn nodi'r materion a godwyd.
Fodd bynnag, cynigir gyda pharch mai mân faterion golygyddol yw’r rhain ac, er eu bod yn faterion i’w cywiro, nad ydynt yn newid gweithrediad y Cod na’i effaith.
O ystyried y sylw hwn, mae’r Llywodraeth yn cynnig i’r Pwyllgor fod y Llywodraeth yn gwneud y cywiriadau golygyddol, fel y’u hamlinellir yn fanylach isod, cyn dyroddi’r Cod Ymarfer. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod hwn yn ymateb pragmatig a chymesur a fydd yn sicrhau bod y Cod Ymarfer yn cael ei gyhoeddi heb amhendantrwydd, nac oedi diangen.
Pwynt craffu 1: Bydd ail frawddeg paragraff 44 yn cael ei diwygio o
“Bydd angen i’r cymorth fod yn briodol …”
i “Dylai’r cymorth fod yn briodol …”, gan
fod y datganiad hwn yn dilyn y canllaw yn y frawddeg flaenorol lle
y defnyddir ‘dylai’.
Bydd paragraff 351 o'r Cod yn cael ei ddiwygio i nodi
“Dylid rhoi protocolau ar waith fel y gall hyn ddigwydd ac y
gellir adolygu’r broses yn rheolaidd”.
Mae'r Llywodraeth wedi ystyried yr enghreifftiau eraill lle y
defnyddir yr ymadrodd “angen” yn y Cod ac wedi dod i'r
casgliad bod y term, ym mhob achos, yn glir o ran ei ddiben ac na
fwriedir iddo osod gofyniad na chanllawiau cyfreithiol.
Pwynt craffu 2: Mae'r Llywodraeth wedi nodi sylwadau'r Pwyllgor am y defnydd o'r gair “locality”, nas diffinnir yn yr Eirfa, ac wedi ystyried y chwe defnydd o’r term hwn yn y Cod.
Ym mharagraff 230 yn y testun Saesneg, bwriad “what works best in any given locality or region” yw cyfleu ymdeimlad o’r hyn sy’n gweithio orau ar draws yr awdurdodau lleol yn y rhanbarth. Felly, bydd y cyfeiriad at “what works best in any given locality or region” yn cael ei ddiwygio i “what works best in the region” (yn Gymraeg, “yr hyn sy’n gweithio orau yn y rhanbarth”).
Mae'r pum defnydd arall o'r term yn digwydd ym Mhennod 6 o’r Cod Ymarfer, sy'n ymdrin â'r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Mae'r defnydd o'r term “locality" yma yn gyfystyr â defnyddio'r term “region” diffiniedig, a bydd y term yn cael ei newid yn unol â hynny, yn y ddwy iaith.
Pwynt craffu 3: Bydd paragraff 83 o'r testun Saesneg yn cael ei ddiwygio i gyfeirio at “Chapter 2B of this Code.”
Pwynt craffu 4: Bydd paragraff 230 o'r testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio i “gwahanol fathau o sefydliadau a dulliau gweithredu”, sy'n cyfateb i'r testun Saesneg.
Pwynt craffu 5: Bydd paragraff 251 o'r testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio i roi “ac ymgysylltu â'r bobl hyn” yn lle “a chynnwys y bobl hyn” fel ei fod yn cyfateb i’r testun Saesneg.
Pwynt craffu 6: Bydd paragraff 276 o'r testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio i “(gweler pennod 2 o'r Cod hwn)”, sy'n cyfateb i'r testun Saesneg.
Pwynt craffu 7: Bydd paragraff 283 yn cael ei ddiwygio i ddefnyddio'r term diffiniedig “y gwasanaeth” wrth gyfeirio at y “gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy” er mwyn bod yn gyson â’r modd y drafftiwyd y paragraffau yn union cyn paragraff 283 ac ar ei ôl.
Bydd cywiriadau fformadu, cyfwerthedd a theipograffyddol, fel y'u nodir yn eich dogfen sylwadau ychwanegol, hefyd yn cael sylw cyn i'r Cod gael ei gyhoeddi.